Math | administrative territorial entity of Belarus, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, tref/dinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 1,992,862 |
Anthem | Anthem of Minsk |
Pennaeth llywodraeth | Uladzimir Kukharau |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Nottingham, Sendai, Bangalore, Lyon, Belo Horizonte, Changchun, Łódź, Bonn, Eindhoven, Kyiv, Dushanbe, Chişinău, La Habana, Tehran, Abu Dhabi, Ankara, Tiraspol, Detroit, Cairo, Vilnius, Kalisz, Bakersfield, Caracas, Yerevan, Murmansk, Novosibirsk, Beijing, Potsdam, St Petersburg, Riga, Odesa, Brașov, Reinickendorf, Nevers, Omsk, Bryansk, Kaliningrad, Agia Napa, Nizhniy Novgorod, Tbilisi, Kaluga, Ulyanovsk, Shanghai, Bishkek, Beograd, Netanya, Harare, Izhevsk |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Belarwseg, Rwseg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Belarws |
Gwlad | Belarws |
Arwynebedd | 409.5 km² |
Uwch y môr | 280 metr |
Gerllaw | Afon Nyamiha, Afon Svislach, Loshytsa, Sliepnia, Cna river, Myška, Traścianka, Piarespa, Dražnia |
Yn ffinio gyda | Minsk Region |
Cyfesurynnau | 53.902246°N 27.561837°E |
Cod post | 220001–220141 |
BY-HM | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Minsk City Executive Committee |
Corff deddfwriaethol | Q27919241 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | chairman of the Minsk City Executive Committee |
Pennaeth y Llywodraeth | Uladzimir Kukharau |
Prifddinas a dinas fwyaf Belarws, ar lannau afonydd Svislach a Niamiha, yw Minsk (Belarwseg: Мінск, Менск; Rwseg: Минск). Minsk hefyd yw pencadlys Cymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol (CIS). Fel prifddinas y wlad, mae gan Minsk statws weinyddol arbennig ym Melarws a hi hefyd yw canolfan weinyddol voblast (talaith) Minsk a raion (dosbarth) Minsk. Mae ganddi boblogaeth o 1,814,700 (2007).
Mae'r cyfeiriadau cynharaf at Minsk yn dyddio o'r 11g (1067). Yn 1242, daeth Minsk yn rhan o Ddugiaeth Fawr Lithwania, a derbyniodd ei breintiau trefol yn 1499. Yn 1569 daeth yn brifddinas Voivodaeth Minsk yng Nghymanwlad Gwlad Pwyl a Lithwania. Cafodd ei chipio gan Rwsia yn 1793, mewn canlyniad i Ail Raniad Gwlad Pwyl. O 1919 hyd 1991, Minsk oedd prifddinas SSR Byelorws.