Muhammad | |
---|---|
Ganwyd | 20 Ebrill 571 Mecca |
Bu farw | 8 Mehefin 632 Medina |
Man preswyl | Mecca, Medina |
Galwedigaeth | heusor, traddodwr, masnachwr, proffwyd, pregethwr, gwleidydd, arweinydd milwrol |
Tad | Abdullah Ibn Abdul-Muttalib |
Mam | Aminah |
Priod | Khadija bint Khuwaylid, Sawda bint Zamʿa, Hafsa bint Umar ibn Al-Khattab, Juwayriyya bint al-Harith, Aisha, Zaynab bint Jahsh, Safiyya bint Huyayy, Zaynab bint Khuzayma, Umm Salama, Ramla bint Abi Sufyan, Rayhana bint Zayd ibn ʿAmr, Maria al-Qibtiyya, Maymunah bint al-Harith |
Plant | Abd-Allah Ibn Muhammad, Qasim Ibn Muhammad, Ibrahim Ibn Muhammad, Zainab Bint Muhammad, Ruqayya Bint Muhammad, Umm Kulthum Bint Muhammad, Fatima |
Perthnasau | Ali ibn Abi Talib, Halimah bint Abi Dhuayb, Hamza ibn ‘Abd al-Muttalib, Abu Talib Ibn ‘abd Al-Muttalib, Abd Al-Muttalib, Hassan Ibn Ali, Husayn ibn Ali, Zaynab bint Ali, Abbas ibn Abd al-Muttalib, Abū Lahab, Safiyyah bint ‘Abd al-Muttalib, Harith ibn ‘Abd al-Muttalib, Az-Zubayr ibn ‘Abd al-Muttalib, Umm Kulthum bint Ali ibn Abi Talib |
Llinach | Banu Hashim |
Rhan o gyfres ar |
---|
Arferion |
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
Sunni · Shi'a |
Astudiaethau Islamig · Celf |
Islam a chrefyddau eraill |
Cristnogaeth · Iddewiaeth |
Sylfaenydd crefydd Islam oedd Muhammad neu Mohamed sef مُحَمَّد ٱبن عَبْد ٱللَّٰه mewn Arabeg (570 - 8 Mehefin, 632). Ganwyd ef ym Mecca rywbryd yn y flwyddyn 570 OC, yn fab i Abd Allah a oedd yn aelod o deulu'r Hashimiaid o lwyth y Quraysh, a bu farw ym Medina (yn Sawdi Arabia heddiw). Bu farw ei dad cyn iddo gael ei eni a bu ei fam, Amina, farw pan oedd yn chwech oed.
Yn ôl dysgeidiaeth Islam, cafodd Muhammad weledigaeth ddwyfol yn 610, y gyntaf o nifer. Gwelodd yr angel Gabriel a chlywed llais yn dweud wrtho "Adrodd". Ar ôl oedi a phetruso, yn y diwedd derbyniodd Muhammad yr alwad. Arwyddocâd y weledigaeth oedd iddo fod yn lladmerydd i'r gwirionedd dwyfol a dechrau lledaenu'r neges newydd.
Ar ôl marwolaeth Muhammad yn 632, cafodd y ddysgeidiaeth a ddatguddiwyd iddo ei threfnu i ffurfio'r Coran, llyfr sanctaidd y Mwslemiaid. Mae Mwslemiaid yn credu, fodd bynnag, fod y Coran yn llyfr tragwyddol sy'n air Allah ei hun ac ei drosglwyddo i'r ddynoliaeth a wnaeth Muhammad; ni fyddai Mwlemiaid fyth yn cyfeirio at Fuhammad fel "awdur" y Coran, gan ystyried fod hynny'n gabledd.
Fe'i dilynwyd fel arweinydd y Mwslemiaid gan Abu Bakr, a ystyrir fel y Califf cyntaf. Ychydig iawn o ddilynwyr oedd gan Muhammad i ddechrau, a chawsant eu dirmygu gan amldduwiaid Mecca am 13 mlynedd. Er mwyn dianc rhag erledigaeth barhaus, anfonodd Muhammad rhai o'i ddilynwyr i Abyssinia yn 615, cyn iddo ef a'i ddilynwyr ymfudo o Mecca i Medina (a elwid bryd hynny'n Yathrib) yn ddiweddarach yn 622. Mae'r digwyddiad hwn, yr Hijra, yn nodi dechrau'r calendr Islamaidd, a elwir hefyd yn Galendr Hijri. Ym Medina, unodd Muhammad y llwythau o dan Gyfansoddiad Medina. Yn Rhagfyr 629, ar ôl wyth mlynedd o ymladd ysbeidiol â llwythau Mecca, casglodd Muhammad fyddin o 10,000 o dröedigion Fwslimaidd a gorymdeithio ar ddinas Mecca . Aeth y goncwest yn ddiwrthwynebiad i raddau helaeth a chipiodd Muhammad y ddinas heb fawr o dywallt gwaed. Yn 632, ychydig fisoedd wedi dychwelyd o Bererindod y Ffarwelio, aeth yn wael a bu farw. Erbyn ei farwolaeth, roedd y rhan fwyaf o Benrhyn Arabia wedi trosi i Islam.[1][2]
Mae'r datguddiadau (a elwir pob un yn Ayah – yn llythrennol, "Arwydd [o Dduw]") yr adroddodd Muhammad ei fod wedi eu derbyn gair am air gan Dduw, hyd at ei farwolaeth, yn ffurfio adnodau'r Quran; ar y rhain, yr Ayah, y mae'r grefydd wedi'i seilio. Heblaw am y Qur'an, mae dysgeidiaeth ac arferion Muhammad (sunnah), a geir yn llenyddiaeth Hadith a sira (bywgraffiad), hefyd yn cael eu cynnal a'u defnyddio fel ffynonellau cyfraith Islamaidd (gweler Sharia).
.