Prifddinas talaith Maharashtra yng ngorllewin India a phrif borthladd a chanolfan economaidd India yw Mumbai (Marathi: मुंबई, Mumbaī, IPA:[ˈmumbəi], hen enw hyd at 1995: 'Bombay'). Dyma'r ddinas fwyaf poblog yn India a'r ail ddinas fwyaf poblog yn y byd, gyda phoblogaeth o tua 15,414,288 (2018), ac mae poblogaeth Mumbai Fwyaf (sy'n cynnwys yr ardal fetropolitan cyfagos) oddeutu 22,885,000 (2016)[1][2]. Lleolir Mumbai ar arfordir gorllewinol India a cheir yno harbwr sy'n naturiol ddwfn. Mae Mumbai yn ymdrin â dros hanner cargo morol yr India.
Mae'n borthladd pwysig iawn ac yn ddinas sydd wedi gweld tyfiant economaidd aruthrol yn ystod y degawdau diwethaf; serch hynny anwastad yw dosbarthiad y buddiannau economaidd a nodweddir y ddinas gan gyferbyniaethau trawiadol rhwng y da eu byd a'r tlodion niferus. Yn 2008, enwyd Mumbai yn un o ddinasoedd alpha'r byd.[3][4] Mae ganddi fwy o filiwnyddion a biliwnyddion nag unrhyw ddinas arall yn India gyfan.[5][6]
Mae gan y ddinas nifer o adeiladau bric coch o gyfnod y Raj, e.e. y brif orsaf reilffordd yng nghanol y ddinas. Mae "Porth India", yr heneb a godwyd i nodi ymweliad y brenin Siôr V ym 1911, yn symbol o'r ddinas. Dros y dŵr ym Mae Mumbai mae nifer o henebion Bwdhaidd hynafol i'w cael ar Ynys Elephanta.[7][8]
Mumbai yw prifddinas arian, masnach ac adloniant India.[9] Mae hefyd yn un o ddeg canolfan fasnach orau'r byd o ran llif-arian byd-eang,[10] gan gynhyrchu 6.16% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) India[11], ac mae'n cyfrif am 25% o allbwn diwydiannol, 70% o fasnach forwrol India (Ymddiriedolaeth Porthladd Mumbai a JNPT), a 70% o drafodion cyfalaf economi India.[12][13][14]
↑"The World According to GaWC 2008". Globalization and World Cities Study Group and Network (GaWC). Prifysgol Loughborough. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Chwefror 2011. Cyrchwyd 7 Mai 2009.