Mae "pared" yn ailgyfeirio i'r erthygl hon. Efallai eich bod yn chwilio am
parêd.
Arwyneb fertigol sy'n gwahanu gwagle, e.e. mewn tŷ, neu sy'n gorwedd rhwng dau ddarn o dir i'w gwahanu, yw mur neu wal. Yr hen air Celtaidd oedd magwyr fel a geir heddiw yn y gair blodau'r fagwyr.
Mae daeareg ardaloedd yn wahanol, gan fod y garreg a geir yno'n lleol, ac yn amrywiol iawn. Mae hyn yn rhoi gwedd wahanol i waliau'r ardal. Yng Nghymru, fel llawer o wledydd eraill, roedd y grefft o godi wal sych (heb forter i'w chynnal) yn hynod bwysig gan fod waliau o'r fath yn rhoi lloches i ddefaid a ffin rhwng dau ffermwr.
-
Mae'r cerrig hyn wedi dod o lan afon, ychydig fetrau i ffwrdd, gyda llif yr afon dros filoedd o flynyddoedd wedi rhoi iddynt siap crwm.
-
Enghraifft debyg, gyda'r cerrig hyn wedi dod o lannau
Llyn Mwyngil
-
Tua 15 metr o'r wal ger y llyn, ceir yr adeilad yma, sydd wedi defnyddio llechen, o'r chwarel leol yn yr adeilad.
-
Yr un lleoliad (glan Llyn Mwyngil), gyda blaen yr eglwys wedi'i hadeiladu o garreg o ochr y llyn, a'r wal o'i blaen, yn llawer mwy modern - ac o chwarel lechi leol.
-
Twll dafad yn y wal, i ddefaid fynd o'r naill ochr i'r llall, ond nid y gwartheg
-
Wal o lechi tennau ger
Llanwrin,
Powys