Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ardal Lywodraethol Madaba |
Gwlad | Gwlad Iorddonen |
Uwch y môr | 808 metr |
Cyfesurynnau | 31.7678°N 35.7256°E |
Cadwyn fynydd | Abarim |
Mynydd yn Iorddonen yw Mynydd Nebo neu Bryn Nebo (Arabeg:جبل نيبو, Jabal Nībū; Hebraeg: הַר נְבוֹ, Har Nəvō). Saif yng ngorllewin y wlad, ger ymyl Dyffryn Iorddonen, ac mae'r copa 817 metr o uchder.
Yn ôl yr Hen Destament (Deuteronomium 34:1), copa Nebo oedd y fan lle bu farw Moses, wedi iddo weld yr olygfa oddi yno tuag at "Gwlad yr Addewid". Saif cerfddelw o groes gyda neidr ar y copa, heddiw, o waith y cerflunydd Eidalaidd Giovanni Fantoni.