Neo-wladychiaeth

Enw ar arferion a ddefnyddir gan wledydd datblygedig yn yr oes ôl-drefedigaethol i ddylanwadu ar wledydd datblygol yw neo-wladychiaeth. Term beirniadol ydyw sydd yn disgrifio perthynas anghyfartal o ganlyniad i dra-arglwyddiaeth economaidd, cymdeithasol, diwylliannol, milwrol, a gwleidyddol sydd gan y byd datblygedig, yn enwedig y cyn-bwerau imperialaidd, i ymelwa ar y byd datblygol, fel arfer y cyn-drefedigaethau, er gwaethaf yr hawl sydd gan bob wladwriaeth annibynnol i sofraniaeth ac hunanbenderfyniad. Mae'r enw yn awgrymu ffurf gyfoes ar wladychiaeth, sydd yn wahanol i'r hen drefn o ymledu trefedigaethau drwy rym arfog ac ymerodraethau ffurfiol. Yn namcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol, trafodir neo-wladychiaeth yn bennaf gan ysgolheigion Marcsaidd ac ôl-drefedigaethol.

Bathwyd y term neo-wladychiaeth ar ddechrau cyfnod datrefedigaethu'r ymerodraethau Ewropeaidd yng nghanol yr 20g, i gyfeirio at ddibyniaeth barhaol y cyn-drefedigaethau newydd annibynnol ar y gwledydd Ewropeaidd hynny. Defnyddiwyd y term yn gyntaf yn sgil cynhadledd gan benaethiaid llywodraethau Ewrop ym 1957, a chytunasant i gynnwys eu tiriogaethau tramor o fewn trefniadau'r Farchnad Gyffredin. Cyn bo hir, estynnwyd ei ddiffiniad i grybwyll unrhyw berthynas ymelwol rhwng gwlad ddatblygedig a gwlad ddatblygol, er enghraifft rhwng Unol Daleithiau America a chenhedloedd America Ladin. Defnyddiwyd y term gan Farcswyr i ddisgrifio'r drefn gyfalafol fyd-eang gyfoes (cymharer diffiniad Lenin o imperialaeth yn "gam uchaf cyfalafiaeth") a gynhelir gan gwmnïau trawswladol a sefydliadau rhyngwladol yn ogystal â llywodraethau'r byd datblygedig er mwyn ymelwa ar draul y byd datblygol.


Developed by StudentB