Y ddisgyblaeth o gasglu, dadansoddi, gwireddu, a chyflwyno newyddion ynglŷn â materion cyfoes, gogwydd ffasiwn, a phobl yw newyddiaduraeth. Gelwir un sydd yn gweithio yn newyddiaduraeth yn newyddiadurwr, boed broffesiynol neu amatur.[1] [2]
Gall y cyfrwng fod yn un o nifer: papurau newydd a cylchgronau, radio a theledu oedd y fformat draddodiadol tan yr 21ain ganrif pan ddaeth llwyfanau digidol fel gwefanau cyfrifiadaurol ac apiau ar gyfer ffonau a thabledi.
Yn y gymdeithas sydd ohoni, ystyrir y 'newyddion' yn brif gyfrwng neu hyrwyddwr gwybodaeth gyfoes, newydd ac am y newidiadau mewn materion cyhoeddus o dydd i ddydd. Ond nid dyma yw hyd a lled newyddiaduraerth, a gall anturio i faesydd fel ymchwil i fywydau pobl, neu gamweinyddu, llenyddiaeth, ffilmiau a sinema. Mewn sawl gwlad caiff ei reoli i wahanol raddau gan Lywodraeth y wlad, fel erfyn gwleidyddol.[3]
|accessdate=
(help)