Un o ranbarthau Ffrainc sy'n gorwedd yn ne-orllewin y wlad yw Aquitaine-Limousin-Poitou-Charentes. Mae'n gorwedd ar Gwlff Gasgwyn (Bae Biscay) ac yn ffinio â rhanbarthau Pays-de-la-Loire, Centre-Val de Loire, Auvergne-Rhône-Alpes a Languedoc-Roussillon-Midi-Pyrénées. Bordeaux yw'r brifddinas weinyddol. Yn y de mae'n cynnwys rhan o fynyddoedd y Pyreneau a nodweddir yr arfordir gan fforestydd y landes.