Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 18,326 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC−03:00 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Kalaallisut |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Sermersooq |
Sir | Sermersooq |
Gwlad | Yr Ynys Las |
Arwynebedd | 686.3 km² |
Uwch y môr | 5 metr |
Cyfesurynnau | 64.175°N 51.7333°W |
Cod post | 3900 |
Prifddinas a thref fwyaf yr Ynys Las yw Nuuk (Daneg Godthåb).
Mae'n borthladd ar aber Ffiord Godthåb ac fe'i sefydlwyd yn 1721 gan ymsefydlwyr o Ddenmarc. Cyn hynny bu'n gartref i ymsefydlwyr Llychlynaidd a'r bobl frodorol. Y dinasoedd agosaf ato yw: Iqaluit a St. John's yng Nghanada a Reykjavík yn Gwlad yr Iâ.
Yn Ionawr 2013, roedd ganddi boblogaeth o 16,454,[1] gan ei gwneud yn un o'r prifddinasoedd lleiaf yn y byd, o ran poblogaeth.
Nuuk ydy'r gair yn yr iaith Kalaallisuteg am "bentir" gan fod safle'r ddinas ar ben eithaf y ffiord Nuup Kangerlua ar arfordir dwyreiniol Môr Labrador.
Mae ei lledred, (64°10' G) yn ei gwneud y brifddinas fwyaf gogleddol ar wyneb y ddaear.