Mae nwy yn un o'r pedwar prif gyflwr mater (ynghyd â solid, hylif a phlasma). Gall nwy pur gael ei wneud o atomau unigol (e.e. nwy nobl neu nwy atomig fel neon) neu foleciwlau elfennaidd wedi'i wneud o un math o atom (e.e. carbon deuocsid). Mae cymysgedd nwyon yn cynnwys nifer o nwyon pur fel y mae atmosffer y Ddaear. Yr hyn sy'n gwneud nwy mor wahanol i hylif neu solid ydy'r gap neu'r lle gwag rhwng yr holl ronynnau. Effaith y lle gwag yma ydy nwy di-liw, fel arfer.