Math | oblast |
---|---|
Enwyd ar ôl | Moscfa |
Prifddinas | Krasnogorsk |
Poblogaeth | 7,708,499 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Andrei Vorobyov |
Cylchfa amser | Amser Moscfa, Ewrop/Moscfa, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Jelgava, Burgas, Bwrdeistref Burgas |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dosbarth Ffederal Canol |
Sir | Rwsia |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 45,800 km² |
Yn ffinio gyda | Oblast Tver, Oblast Yaroslavl, Oblast Vladimir, Oblast Ryazan, Oblast Tula, Moscfa, Oblast Kaluga, Oblast Smolensk, Central Volga Krai |
Cyfesurynnau | 55.628°N 37.738°E |
RU-MOS | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | governor of Moscow Oblast, Government of Moscow Oblast |
Corff deddfwriaethol | Moscow Oblast Duma |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | governor of Moscow Oblast |
Pennaeth y Llywodraeth | Andrei Vorobyov |
Un o oblastau Rwsia yw Oblast Moscfa (Rwseg: Моско́вская о́бласть, Moskovskaya oblast). Does dim canolfan weinyddol fel y cyfryw; lleolir y gwahanol adrannau llwyodraeth leol mewn sawl dinas, yn cynnwys Moscfa (Moscow), prifddinas y wlad, yr enwir yr oblast ar ei hôl. Poblogaeth: 7,095,120 (Cyfrifiad 2010).
Lleolir yr oblast yn ardal weinyddol y Dosbarth Ffederal Canol. Cafodd ei sefydlu yn 1929. Mae'n ffinio gyda Oblast Tver i'r gogledd-orllewin, Oblast Yaroslavl i'r gogledd, Oblast Vladimir i'r dwyrain, Oblast Ryazan i'r de-ddwyrain, Oblast Tula i'r de, Oblast Kaluga i'r de-orllewin ac Oblast Smolensk i'r gorllewin. Yng nhanol yr oblast saif dinas ffederal Moscfa, sy'n ddeiliad ffederal ar wahân. Mae'r oblast yn gartref i nifer o ddiwydiannau yn cynnwys meteleg, puro olew, peirianeg mecanyddol, prosesu bwyd, ynni, a diwydiannau cemegol.