Ocsitaneg | ||
---|---|---|
occitan, lenga d'òc | ||
Siaredir yn | Ffrainc Sbaen Yr Eidal Monaco | |
Cyfanswm siaradwyr | 500,000-1,000,000[1] | |
Teulu ieithyddol | Indo-Ewropeaidd | |
Tafodieithoedd | ||
Statws swyddogol | ||
Iaith swyddogol yn | Catalwnia, Sbaen (hi yw iaith ddewisol Val d'Aran) | |
Rheoleiddir gan | Conselh de la Lenga Occitana (Cymraeg: Cyngor yr Ocsitaneg) | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | oc | |
ISO 639-2 | oci | |
ISO 639-3 | oci | |
Wylfa Ieithoedd | – |
Siaredir Ocsitaneg ( (ynganiad) a adnabyddir hefyd fel lenga d'òc) yn Ne Ffrainc, yn bennaf yn ardal Profens, rhannau o'r Eidal (Dyffrynoedd Ocsitan), rhannau o Sbaen (Dyffryn Aran) ac ym Monaco; yn answyddogol, gelwir yr ardaloedd hyn yn Ocsitania. Mae'r Ocsitaneg yn un o'r ieithoedd Romáwns ac mae'n perthyn yn agos i Gatalaneg.[2]
Nid yw Ffrainc wedi cefnogi'r iaith yn effeithiol, ac mae'r niferoedd sy'n siarad Ocsitaneg heddiw'n lleihau, ond caiff ei hystyried yn iaith swyddogol gan Lywodraeth Catalwnia.[3] Ymhlith y siaradwr enwog mae Frédéric Mistral, bardd Provençal. Oherwydd y diffyg cefnogaeth iddi gan Ffrainc, nid oes un iaith safonol ac mae chwe tafodiaith a chwe ffurf ysgrifenedig. Mae UNESCO yn ystyried pedair o'r tafodieithoedd hyn 'yn beryg enbyd o ddiflannu', ac wedi rhestru yn eu 'Rhestr Coch o Ieithoedd mewn Perygl'. Y bedair yw: Provençal, Auvergnat, Limousin and Languedocien. Ystyrir y ddwy arall, Gascon a Vivaro-Alpine 'mewn peryg'.