Enghraifft o'r canlynol | cyfnod calendr |
---|---|
Y gwrthwyneb | Cyn Crist |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Oed Crist (Lladin: Anno Domini, "Ym mlwyddyn yr Arglwydd"),[1] talfyriad OC neu AD, yw'r system o rifo blynyddoedd o ddyddiad traddodiadol genedigaeth Iesu o Nasareth. Fe'i defnyddir yng Nghalendr Gregori. Nodir blynyddoedd cyn genedigaeth Crist fel "Cyn Crist" (CC). Yn y 2020au, defnyddid y term 'y Cyfnod Cyffredin' (Common Era) sy'n enw amgen (a niwtral, yn grefyddol) ar oes galendr draddodiadol, Anno Domini.
Dyfeisiwyd y system yn Rhufain yn 525 gan fynach o'r enw Dionysius Exiguus, ond ni chyhaeddodd orllewin Ewrop tan yr 8g. Daeth yn gyffredin rhwng yr 11g a'r 14g. Y drefn cyn hynny oedd dyddio yn ôl nifer y blynyddoedd yr oedd teyrn arbennig wedi bod ar yr orsedd. System arall a defnyddid oedd Anno Mundi, o ddyddiad traddodiadol creadigaeth y byd gan Dduw yn ôl Llyfr Genesis.