Oes y Seintiau yw'r enw traddodiadol am y cyfnod ar ôl ymadawiad y Rhufeiniaid o Ynys Brydain pan ymledwyd Cristnogaeth gan genhadon brodorol ymhlith pobloedd Celtaidd Prydain ac Iwerddon. Gellir dweud ei bod yn parhau o tua dechrau'r 5g hyd ddiwedd y 7g. Mae hyn yn gyfnod a elwir yn ogystal y 'Cyfnod Ôl-Rufeinig' neu'r Oesoedd Tywyll. Ond gyda'r term 'Oes y Seintiau' mae haneswyr yn canolbwyntio fel rheol ar hanes crefydd y cyfnod. Mae'n ffurfio pennod bwysig ac unigryw yn hanes yr Eglwys Celtaidd yn Ewrop.
Bu'r seintiau cynnar hyn, y gellir eu cyfrif yn eu cannoedd, weithiau'n teithio'n eang trwy'r gwledydd Celtaidd. Sefydlwyd clasau, eglwysi a cholegau ganddynt.
Rydym yn dibynnu yn bennaf am sawl cyfrol o fucheddau'r saint am ein gwybodaeth am y seintiau eu hun, e.e. ceir hanes Dewi Sant yn y testun Buchedd Dewi. Yn ogystal mae cofnodion seciwlar prin, diweddarach gan amlaf, traddodiadau lleol a llên gwerin, a thystiolaeth archaeoleg yn ychwanegu at y darlun o waith y seintiau, a orliwir fel rheol yn y bucheddau canoloesol gyda llawer o fotifau chwedlonol. Mae'n debyg yn ogystal fod nifer o'r seintiau lleol a gofnodir yn cynrychioli duwiau a duwiesau brodorol wedi eu Cristioneiddio, neu o leiaf fod y traddodiadau am lawer o'r seintiau hyn yn perthyn i fyd mytholeg Geltaidd yn hytrach na hanes go iawn.