Math | ogof, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Arwynebedd | 385.74 ha |
Cyfesurynnau | 51.8243°N 3.6611°W |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Ogof ger Penwyllt ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw Ogof Ffynnon Ddu. Gorwedd dan lethr yn y Fforest Fawr tua milltir a hanner i'r dwyrain o bentref Craig-y-nos. Gyda dyfnder o 308m a thua 50 km (31 milltir) o hyd mae hi'n un o'r ogofâu dyfnaf a hiraf ym ngwledydd Prydain a hi yw'r gyntaf i gael ei dynodi fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol.
Ar lawr yr ogof mae palmant calchfaen a thu fewn mae stalagmitau a stalagtitau, rhaeadrau, culfeydd syrth a sympiau. Mae pum mynedfa i'r ogof.
Peter Harvey ac Ian Nixon wnaeth ddarganfod Ogof Ffynnon Ddu - yn 1946. Roeddent ill dau'n aelodau o Glwb Ogofâu De Cymru a oedd newydd ei sefydlu.[1] Darganfuwyd fod yr ogof yn ymestyn i wahanol gyfeiriadau yn 1967, a cheir ynddi strwythurau cymhleth o garreg a nant tanddaearol.