Uchafbwynt rhywiol, wrth ymrain neu hunan leddfu, yw orgasm, gwefr, neu gwŷn. Fe'i profir gan ddynion a menywod. Ceir pleser corfforol dwys a reolir gan y gyfundrefn nerfol awtonomig. Mae'r cyhyrau pelfig isaf, sy'n amgylchynnu'r organau cenhedlu a'r anws, yn cyfangu mewn cylchredau chwim. Yn aml, mae'r sawl sy'n profi orgasm yn symud yn anorfod.
Wedi orgasm, ceir ymdeimlad o flinder a achosir gan ryddhad o'r hormon prolactin.
|