Gweriniaeth Islamaidd Pakistan اِسلامی جمہوریہ پاكِستان (Wrdw) Islāmī Jumhūriyah Pākistān | |
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad |
---|---|
Enwyd ar ôl | sincerity in Islam, Punjab, Khyber Pakhtunkhwa, Azad Kashmir, Sindh, Balochistan |
Prifddinas | Islamabad |
Poblogaeth | 223,773,700 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Qaumi Taranah |
Pennaeth llywodraeth | Shehbaz Sharif |
Cylchfa amser | UTC+05:00, Asia/Karachi |
Gefeilldref/i | Tsushima |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Wrdw |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De Asia |
Gwlad | Pacistan |
Arwynebedd | 881,913 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | Affganistan, India, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Iran |
Cyfesurynnau | 30°N 71°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Pacistan |
Corff deddfwriaethol | Llywodraeth Pacistan |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Pacistan |
Pennaeth y wladwriaeth | Asif Ali Zardari |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Pacistan |
Pennaeth y Llywodraeth | Shehbaz Sharif |
Crefydd/Enwad | Islam, Cristnogaeth, Hindŵaeth, Ahmadiyya |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $348,263 million, $376,533 million |
Arian | Rupee Pacistan |
Canran y diwaith | 5 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 3.53 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.544 |
Gwlad yn ne Asia yw Gweriniaeth Islamaidd Pakistan neu Pakistan (hefyd Pacistan). Y gwledydd cyfagos yw India i'r dwyrain, Iran i'r gorllewin, Affganistan i'r gogledd-orllewin a Gweriniaeth Pobl Tsieina (Tibet) i'r gogledd. Mae ar arfordir Môr Arabia yn y de. Mae mwy na 150 miliwn o bobl yn byw yn y wlad, y mwyafrif ohonynt yn Fwslemiaid. Islamabad yw prifddinas y wlad.
Hi yw pumed wlad fwyaf poblog y byd, gyda'i phoblogaeth yn fwy na 225.2 miliwn, ac mae ganddi boblogaeth Fwslimaidd ail-fwyaf y byd. Pacistan yw'r 33ain wlad fwyaf yn ôl arwynebedd, sy'n 340,509 milltir sg (881,913 km sg). Mae wedi ei wahanu o Tajikistan gan Goridor Wakhan yn y gogledd, ac mae hefyd yn rhannu ffin forwrol ag Oman.
Mae Pacistan yn safle sawl diwylliant hynafol, gan gynnwys safle Oes Newydd y Cerrig (Neolithig) Mehrgarh 8,500 mlwydd oed yn Balochistan,[1] a Gwareiddiad Dyffryn Indus yn o'r Oes Efydd, y gwareiddiadau mwyaf helaeth o'r Hen Fyd.[2] Roedd y rhanbarth sy'n cynnwys talaith fodern Pacistan yn deyrnas i sawl ymerodraeth a brenhiniaeth, gan gynnwys yr Achaemenid; am gyfnod byr roedd yn nwylo Alecsander Fawr; y Seleucid, y Maurya, y Kushan, y Gupta;[3] Califf yr Umayyad yn ei ranbarthau deheuol, yr Hindw Shahi, y Ghaznavids, y Delhi Sultanate, y Mughals,[4] y Durranis, yr Ymerodraeth Sikhaidd, rheolaeth Cwmni Dwyrain India Prydain, ac yn fwyaf diweddar, Ymerodraeth Indiaidd Prydain o 1858 i 1947.
Wedi'i sbarduno gan 'Fudiad Pacistan', a geisiodd famwlad i Fwslimiaid India Prydain, a buddugoliaethau etholiadol ym 1946 gan yr 'All-India Muslim League', enillodd Pacistan annibyniaeth o Loegr ym 1947 ar ôl Rhaniad Ymerodraeth Indiaidd Prydain. Dyfarnwyd gwladwriaeth ar wahân i'w rhanbarthau Mwslimaidd a gwelwyd ymfudo torfol digyffelyb a bu farw llawer iawn.[5] Yn wreiddiol, roedd yn Ddominiwn o Gymanwlad Prydain, drafftiodd Pacistan ei chyfansoddiad yn swyddogol ym 1956, a daeth i'r amlwg fel gweriniaeth Islamaidd. Ym 1971, ymbellhaodd Dwyrain Pacistan fel gwlad newydd a alwyd yn "Bangladesh" ar ôl rhyfel cartref naw mis o hyd. Yn ystod y pedwar degawd canlynol, rheolwyd Pacistan gan lywodraethau sifil a milwrol, democrataidd ac awdurdodol, cymharol seciwlar a hollol Islamaidd.[6] Etholodd Pacistan lywodraeth sifil yn 2008, ac yn 2010 mabwysiadodd system seneddol newydd gydag etholiadau.[7]
Mae Pacistan yn bŵer canol, ac mae ganddi'r chweched lluoedd arfog mwyaf yn y byd. Mae'n wladwriaeth gydag arfau niwclear ac mae ymhlith yr economïau sy'n dod i'r amlwg ac sy'n tyfu,[8] gyda dosbarth canol mawr sy'n tyfu'n gyflym.[9] Nodweddir hanes gwleidyddol Pacistan ers annibyniaeth gan gyfnodau o dwf economaidd a milwrol sylweddol yn ogystal â rhai ansefydlog, yn wleidyddol ac yn economaidd. Mae'n wlad o ethnigrwydd amrywiol iawn a cheir amryw o ieithoedd; amrywiol hefyd yw ei daearyddiaeth a'i bywyd gwyllt. Fodd bynnag, mae'r wlad yn parhau i wynebu heriau, gan gynnwys tlodi, anllythrennedd, llygredd a therfysgaeth.[10] Mae Pacistan yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, Sefydliad Cydweithrediad Shanghai, y Sefydliad Cydweithrediad Islamaidd, Cymanwlad y Cenhedloedd, Cymdeithas Cydweithrediad Rhanbarthol De Asia, y Glymblaid Gwrthderfysgaeth Filwrol Islamaidd, ac fe'i dynodir yn brif gynghrair nad yw'n aelod o NATO gan yr Unol Daleithiau.