Llestr sy'n cael ei ddefnyddio i goginio, berwi, neu doddi dros dân agored yw pair neu crochan.
Mewn chwedloniaeth Geltaidd, a rhai ffurfiau o Wica, mae'r pair yn cael ei gysylltu â'r dduwies Ceridwen. Yn hanes Taliesin, mae'r pair yn ffynhonnell ysbrydoliaeth a gwybodaeth. Mae mytholeg Gymreig hefyd yn sôn am beiriau a oedd yn ddefnyddiol i fyddinoedd mewn brwydrau. Yn ail gainc y Mabinogi, yn hanes Branwen, Ferch Llŷr, mae'r Pair Dadeni yn bair hudolus y gellid gosod rhyfelwyr marw ynddo a thrwy hynny ddod â hwy yn ôl yn fyw, ond heb fod ganddynt y gallu i siarad.[1] Tybiwyd nad oedd ganddynt eneidiau. Gallai'r rhyfelwyr hyn ddychwelyd i'r frwydr nes iddynt gael eu lladd eto. Yn y chwedl, mae Efnisien yn ei dinistrio trwy ddringo i mewn iddi yn ystod brwydr, a'i chwalu'n ddarnau.
Ceir un o'r enghreifftiau cynharaf o'r gair, wedi'i sillafu fel 'peyr', yn Llyfr Iorwerth o'r 13g. Defnyddir yr ymadrodd bod rhywun 'yn y pair' i gyfleu profedigaeth neu helyntion. Mae'r ymadrodd 'pair cystudd' yn cyfleu yr un ystyr.