Math | cymuned, dinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 630,167 |
Pennaeth llywodraeth | Roberto Lagalla |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Tbilisi |
Nawddsant | Saint Rosalia |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Eidaleg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas Fetropolitan Palermo |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 160.59 km² |
Uwch y môr | 14 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Oreto, Môr Tirrenia |
Yn ffinio gyda | Bagheria, Belmonte Mezzagno, Ficarazzi, Isola delle Femmine, Monreale, Torretta, Villabate, Altofonte, Misilmeri |
Cyfesurynnau | 38.115658°N 13.361262°E |
Cod post | 90121, 90122, 90123, 90124, 90125, 90126, 90127, 90128, 90129, 90131, 90133, 90134, 90135, 90136, 90138, 90139, 90141, 90142, 90143, 90144, 90145, 90146, 90147, 90148, 90149, 90151 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Palermo city council |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Palermo |
Pennaeth y Llywodraeth | Roberto Lagalla |
Dinas a chymuned (comune) ar ynys Sisili yn yr Eidal Palermo, sy'n brifddinas ranbarth Sisili. Mae'n ganolfan weinyddol Dinas Fetropolitan Palermo hefyd. Saif ar arfordir gogledd-orllewinol yr ynys. Yn ogystal â bod yn ganolfan weinyddol mae hi'n borthladd pwysig.
Roedd poblogaeth comune Palermo yng nghyfrifiad 2011 yn 657,561.[1]
Cafodd y ddinas ei sefydlu gan y Ffeniciaid yn yr 8fed ganrif CC. Roedd yn ddinas bwysig dan y Groegiaid a'r Rhufeiniaid ond ni ddaeth yn brif ddinas yr ynys tan gyfnod yr Arabiaid (9g - 11eg). Mae sawl adeilad hanesyddol yn y ddinas yn adlewyrchu'r diwylliant hybrid a flodeuai'r adeg honno ynddi. Codid adeiladau gwych yn yr Oesoedd Canol yn ogystal, gan gynnwys yr eglwys gadeiriol ysblennydd a'r palas Normanaidd, sydd bellach yn sedd y senedd ranbarthol.