Enghraifft o'r canlynol | Devi, Hindu deity |
---|---|
Rhan o | Tridevi |
Yn cynnwys | Sati |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Duwies mewn Hindŵaeth sy'n un o gymharaiaid Shiva, duw dinistr, trawsnewid a dadeni, yw Parvati (Sansgrit: Pārvatī, पार्वती ; weithiau ceir y ffurfiau Parvathi neu Parvathy hefyd). Er mai ail gymar Shiva ydyw - ar ôl Satī, ei wraig gyntaf - ym mytholeg Hindŵaeth, yr un yw Parvati a Satī gan ei bod yn ail-ymrithio o'r dduwies honno. Mae hi'n fam i'r duwiau Ganesha a Skanda (Kartikeya). Mae rhai Hindwiaid yn ei ystyried yn chwaer i Vishnu ac mae Shactiaid yn ei addoli fel y Shakti Ddwyfol, yn ymgorfforiad o holl egni'r Bydysawd. Fel pob duwies Hindŵaidd, gellir ystyried fod Parvati yn ymgorfforiad o ochr benywaidd y duw sy'n gymar iddi (ffordd arall o ddweud hynny yw bod ei chymar yn cynrychioli ochr wrywaidd y dduwies; yr un ydynt yn eu hanfod). Yn ogystal mae Parvati yn cael ei addoli fel Merch yr Himalaya (yn ei gwyryfdod, cyn dod yn gymar i Shiva); mae hi'n arbennig o boblogaidd gan Hindwiaid y mynyddoedd hynny, e.e. yn Nepal ac ardal Darjeeling.
Darlunnir Parvati gyda Shiva fel merch â dwy fraich, ond ar ben ei hun mae ganddi bedair braich ac mae hi'n marchogaeth teigr neu llew. Mae Parvati yn dduwies fwyn fel rheol, fel Mahagauri, Shailputri a Lalita, ond fel pob duwies arall mae ganddi ei ochr "dywyll" a dychrynllyd, fel Durga, Kali, Chandi a'r Mahavidyau. Mae Parvati yn cael ei gweld gan rai addolwyr fel y Fam Ddwyfol Oruchel y mae pob duwies arall yn deillio ohoni neu'n agweddau ohoni.