Trosedd neu ddrygioni yw pechod. Gelwir rhywun sydd wedi pechu yn bechadur. Mae athroniaeth helaeth ar y testun, ac mae'r syniad wedi treiddio i athroniaeth seciwlar hefyd. Mae cysyniadau fel euogrwydd a bai ynghlwm wrth seicoleg pechod.
Yn y traddodiad Cristnogol bwyta ffrwyth Pren y Bywyd yng Ngardd Eden gan Adda ac Efa oedd y Pechod Gwreiddiol.