Llenyddiaeth Gymraeg |
---|
Rhestr llenorion |
Erthyglau eraill |
WiciBrosiect Cymru |
Y pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Y Pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. Fe'i cysylltir yn bennaf ag enwau Einion Offeiriad a Dafydd Ddu Hiraddug, dau fardd a geisiodd osod trefn ar y mesurau caeth yn y 14g. Yn ddiweddarach cafodd y Pedwar mesur ar hugain eu newid rywfaint gan Dafydd ab Edmwnd a'u defnyddio felly yn Eisteddfod gyntaf Caerwys (1523).
Camgymeriad fyddai tybied fod y mesurau hyn yn cael eu defnyddio'n rheolaidd gan y beirdd. Gan amlaf anwybyddid y rhan fwyaf ohonynt ac eithrio mewn ambell gerdd enghreifftiol fel gorchest lenyddol. Maent yn cynnwys wyth math o englyn, pedwar math o gywydd a deuddeg o fesurau eraill. Dyfeisiwyd tri o'r mesurau gan Einion Offeiriad yn y llyfr a adnabyddir fel Gramadeg Einion Offeiriad. Ar ganol y 15g, tynnodd Dafydd ab Edmwnd ddau fesur allan (sef yr englyn penfyr a'r englyn milwr a rhoi dau fesur eithriadol astrus o'i ben a'i bastwn ei hun i mewn, sef Gorchest Beirdd a Chadwynfyr.
Digwyddodd hynny yn Eisteddfod Caerfyrddin, yn 1451[1]. Ni wyddys a gawsant eu defnyddio yn yr eisteddfod honno, ond yn Eisteddfod Caerwys yn 1523 gosodwyd y rheol fod rhaid i fardd fedru canu ar y Pedwar Mesur ar Hugain. Er mor ymarferol oedd rhai o'r mesurau, bwriad y gyfundrefn oedd ceisio cadw bwlch rhwng y beirdd llys a'r beirdd llai a elwir yn Glêr (beirdd crwydrol tebyg i finstreliaid).