Eglwys Sant Illtyd | |
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Pen-bre a Phorth Tywyn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6927°N 4.2841°W |
Cod OS | SN4201 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Lee Waters (Llafur) |
AS/au y DU | Nia Griffith (Llafur) |
Pentref mawr yng nghymuned Pen-bre a Phorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Pen-bre[1] (Saesneg: Pembrey).[2] Saif ar lan Bae Caerfyrddin, ychydig i'r gorllewin o dref Porth Tywyn (Tywyn Bach), rhwng aber Afon Llwchwr ac aber Afon Gwendraeth.
Ceir nifer o fryngeiri o Oes yr Haearn gerllaw, a chafwyd hyd i grochenwaith Rhufeinig yn y pentref.
Cysegrwyd yr eglwys (sydd wedi'i gofrestru'n Radd II*) i Sant Illtud, a cheir corlan anifeiliaid yn erbyn wal yr eglwys o'r 18g, ar ei gynharaf. Mae corff a changell yr eglwys yn perthyn i'r 13g a cheir ynddi arfbais deuluol y Butleriaid (le Boteler), sef tri chwpan - ar ffenest yn ne-ddwyrain yr eglwys.[3] Roedd Sant Illtyd yn sant ar nifer o'u heglwysi mewn tiroedd eraill a oedd yn eu meddiant gan gynnwys: Castell Dunraven ger Southerndown ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Cyflwynwyd y tiroedd yma ym Mhen-bre i Syr John Butler gan Maurice de Londres yn 1128.[4] Roedd Arnold le Boteler yn un o gyndadau'r Arlywydd George W. Bush a'r Arlywydd James Abram Garfield Arlywyddion o'r Unol Daleithiau.
Yn ystod y ddau Ryfel Byd, adeiladwyd maes awyr yma - a ddefnyddir heddiw i rasio ceir. Mae'r traeth yn rhan o Barc Gwledig Pen-bre, sydd hefyd yn cynnwys Twyni Pen-bre. Bu llawer o fwyngloddio ar Fynydd Penbre.
Daw'r "Bre" yn yr enw Pen-bre o'r hen air Celtaidd am "garth".[5] Ystyr cyfoes "Pen-bre" felly yw "pen y garth".[6]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lee Waters (Llafur)[7] ac yn Senedd y DU gan Nia Griffith (Llafur).[8]