Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,169, 1,246 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 3,461.35 ha |
Cyfesurynnau | 52.085°N 4.139°W |
Cod SYG | W04000551 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Pencarreg. Saif ar lan ddeheuol Afon Teifi, ychydig i'r gogledd-ddwyrain o dref Llanybydder, ar y briffordd A485 rhwng Llanybydder a Llanbedr Pont Steffan. Mae'r eglwys wedi ei hadeiladu ar graig uwchben y pentref, a saif Llyn Pencarreg gerllaw. I'r dwyrain cyfyd llethrau Mynydd Pencarreg.
Bu Gwynfor Evans yn byw yn Nhalar Wen yma am rai blynyddoedd, a bu farw yno yn 2005 (19 blynedd yn ôl). Mae'r gymuned yn cynnwys pentref Cwmann.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]