Math | gorynys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Yr Eidal |
Gerllaw | Bae Napoli, Gwlff Salerno |
Cyfesurynnau | 40.6306°N 14.4167°E |
Gorynys neu benrhyn ar arfordir de-orllewin yr Eidal yw Penrhyn Sorrento, sy'n gwahanu Bae Napoli i'r gogledd oddi wrth Gwlff Salerno i'r de.[1] Mae'r penrhyn wedi'i enwi ar ôl ei phrif dref, Sorrento, sy'n sefyll ar ei arfordir gogleddol (ar Fae Napoli). Lleolir Arfordir Amalfi ar yr ochr ddeheuol. Mynyddoedd Lattari yw asgwrn cefn daearyddol y penrhyn. Gorwedd ynys Capri oddi ar ben gorllewinol y penrhyn ym Môr Tirrenia. Mae'r ardal gyfan yn gyrchfan bwysig i dwristiaid.