Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.022°N 3.035°W |
Cod OS | SJ306477 |
Cod post | LL14 |
Pentref ym mwrdeistref sirol Wrecsam yw Pentre Bychan. Saif ar y ffordd B5605 rhwng Rhostyllen a Johnstown.
Ar un adeg roedd ystad Pentre Bychan o bwysigrwydd mawr yn yr ardal. Mae'r plasdy yn dyddio o'r 16g ac yn wreiddiol perthynai i deulu Tegin. Prynwyd yr ystad gan Hugh Meredith yn 1620, a bu'r teulu Meredith yno hyd 1802. Adeiladwyd plasdy newydd yn 1823. Tynnwyd yr adeilad i lawr yn 1963, ac adeiladwyd Amlosgfa Wrecsam ar y safle. Mae rhan o Glawdd Offa gerllaw'r pentref.