Roedd Pepin Fychan, weithiau Pepin III, hefyd Pippin, yn frenin y Ffranciaid o 751 hyd 768. Mae'n fwyaf adnabyddus fel tad Siarlymaen.
Ganed Pepin yn 714 yn Jupille, gerllaw Liège, yn fab i Siarl Martel a Rotrude o Treves). Roedd Siarl Martel wedi uno teyrnasoedd y Ffranciaid, ac fel Maer y Plas, ef oedd y gwir reolwr, nid y brenin. Ar farwolaeth Siarl Martel yn 741, rhannwyd ei diriogaethau rhwng ei ddau fab cyfreithlon; gyda Carloman yn rheoli fel Maer y Plas yn Neustria a Pepin fel Maer y Plas yn Austrasia. Yn 747 ymddiswyddodd Carloman ac aeth i fynachlog, gan adael Pepin yn unig reolwr.
Gyda chydsyniad y Pab, diorseddodd Pepin y brenin Childeric III, yr olaf o linach y Merofingiaid, a chyhoeddodd ei hun yn frenin y Ffranciaid, y brenin Carolingaidd cyntaf. Gorchfygodd y Lombardiaid ac yn 759 cipiodd Narbonne, gan yrru'r Saraseniaid o Gâl. Bu farw yn Saint Denis yn 768.