Phoenicopteriformes Amrediad amseryddol: Eosen-Holosen | |
---|---|
Fflamingo James (Phoenicopterus jamesi) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Phoenicopteriformes |
Teuluoedd | |
Urdd o adar yw'r Phoenicopteriformes (neu ar lafar: y fflamingos).
Mae'n aderyn hynafol iawn - ceir ffosiliau o'r rhywogaeth cynharaf o'r urdd hwn (yr Elornis) yn yr epoc Ëosen. Credir mai teulu arall o'r fflamingos, y Palaelodidae (neu'r 'fflamingos nofiadwy'), yw'r berthynas agosaf, ond mae'r rheiny wedi difodi. Ar wyneb y dŵr yr arferent nofio, fel y mae ymchwil o'u hesgyrn yn dangos. Credir hefyd fod y gytras gyfan (y Mirandornithes) wedi esblygu o hynafiaid a oedd yn byw'n rhannol mewn dŵr.[1]