Enghraifft o'r canlynol | llwyth |
---|---|
Math | Y Celtiaid |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pobloedd hynafol a drigai yng ngogledd yr Alban oedd y Pictiaid. Mae tarddiad yr enw arnynt yn ansicr. Mae'r gair Lladin Picti (yn llythrennol ‘pobl paentiedig’) yn cyfeirio at eu harfer o liwio a thatwio eu cyrff. Cyffelyb eu hystyr yw'r enwau ar eu gwlad yn Gymraeg - Prydyn - a Gwyddeleg, Cruithin. Mae'n bosibl hefyd fod cysylltiad ag enw Galeg llwyth Galaidd y Pictavi (neu'r Pictones). Picteg oedd iaith y Pictiaid ac mae ei pherthynas â'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd a Cheltaidd yn ansicr. Un hen enw ar eu gwlad oedd Pictavia. Ymddengys mai pobl gyn-Geltaidd oeddyn nhw yn wreiddiol. Yr enw Cymraeg Canol arnyn nhw oedd Brithwyr (13g) neu Ffichti(aid) (14g), yn arbennig yn y Brutiau a'r Canu Darogan. Mewn un o Drioedd Ynys Prydain mae'r Pictiaid yn un o ‘Dair Gormes a ddaeth i'r ynys hon ac nid aeth yr un drachefn’, ynghyd â'r Coraniaid a'r Saeson (Rachel Bromwich, gol., Trioedd Ynys Prydein, triawd 36).