Planed sydd y tu allan i Gysawd yr Haul yw planed allheulol neu allblaned. Er gwaethaf yr enw Daear-ganolog, mae pob planed allheulog yn cylchu ei haul (seren) ei hun. Y cyntaf i'w darganfod oedd planed a oedd yn cylchu'r seren 51 Pegasi; gwelwyd hi gyntaf ar 6 Hydref, 1995 gan Michel Mayor a Didier Queloz o Brifysgol Geneva.
Mae dros 3,000 o allblanedau wedi eu darganfod ers 1988.[1] Mae HARPS (ers 2004) wedi darganfod tua cant o allblanedau tra fod y telesgôp gofod Kepler (ers 2009) wedi darganfod dros dwy fil. Mae Kepler hefyd wedi darganfod rhai miloedd o [2][3] nlanedau posib,[4][5] ond gallai fod tua 11% yn gadarnhad ffug.[6]
Ar 10 Mai 2016, gwiriodd NASA 1,284 o allblanedau newydd a ddarganfuwyd gan Kepler; y casgliad mwyaf o ddarganfyddiadau mor belled.[7][8][9] Ar gyfartaledd, mae o leiaf un planed i bob seren, gyda canran yn sustemau aml-blaned.[10]
Mae gan tua 1 mewn 5 seren tebyg i'r haul blaned "maint y Ddaear" yn y parth trigiadwy, gyda disgwyl i'r agosaf fod tua 12 blwyddyn-golau o'r Ddaear.[11][12] Gan gymryd fod 200 biliwn o sêr yng Ngalaeth y Llwybr Llaethog, fe fyddai hynny yn golygu tua 11 biliwn o blanedau posib maint y Ddaear a thrigiadwy yn yr Alaeth, yn codi i 40 biliwn o gynnwys planedau yn cylchdroi y nifer o sêr corrach coch[13]
↑Tenenbaum, P.; Jenkins, J. M.; Seader, S.; Burke, C. J.; Christiansen, J. L.; Rowe, J. F.; Caldwell, D. A.; Clarke, B. D. et al. (2013). "Detection of Potential Transit Signals in the First 12 Quarters of Kepler Mission Data". The Astrophysical Journal Supplement Series206: 5. arXiv:1212.2915. Bibcode2013ApJS..206....5T. doi:10.1088/0067-0049/206/1/5.
↑Santerne, A.; Díaz, R. F.; Almenara, J.-M.; Lethuillier, A.; Deleuil, M.; Moutou, C. (2013). "Astrophysical false positives in exoplanet transit surveys: Why do we need bright stars?". SF2A-2013: Proceedings of the Annual meeting of the French Society of Astronomy and Astrophysics. Eds.: L. Cambresy: 555. arXiv:1310.2133. Bibcode2013sf2a.conf..555S.
↑Cassan, A.; Kubas, D.; Beaulieu, J. -P.; Dominik, M.; Horne, K.; Greenhill, J.; Wambsganss, J.; Menzies, J. et al. (January 11, 2012). "One or more bound planets per Milky Way star from microlensing observations". Nature481 (7380): 167–169. arXiv:1202.0903. Bibcode2012Natur.481..167C. doi:10.1038/nature10684. PMID22237108.