Enghraifft o'r canlynol | grŵp poblogaeth |
---|---|
Math | bod dynol, juvenile |
Olynwyd gan | preadolescent |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn fiolegol, mae'r cyfnod o fod yn blentyn yn para rhwng yr enedigaeth a glasoed; lluosog plentyn ydyw "plant". Mae'r gair, hefyd, yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r berthynas rhwng mam a'i phlentyn (neu tad a'i blentyn). Caiff hefyd ei ddefnyddio i gynrychioli yr enw torfol "plant" e.e. "plentyn y Chwedegau" neu "blentyn siawns".
Yn gyffredinol, mae'r Cenhedloedd Unedig yn diffinio'r gair "plentyn" fel unrhyw berson sydd o dan 18 oed. Mae ganddynt lai o hawliau na'r oedolyn ac yn gyfreithiol rhaid iddynt fod yng ngofal oedolyn cyfrifol drwy'r amser. Gall y plentyn fod yn ferch neu'n fachgen.