Enghraifft o'r canlynol | endid tiriogaethol gweinyddol |
---|---|
Math | administrative territorial entity of England, plwyf sifil |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Lloegr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Uned weinyddol yn yr haen isaf o lywodraeth leol yn Lloegr yw plwyf sifil (Saesneg: civil parish). Mae'n cyfateb i'r gymuned yng Nghymru. Mae'r plwyf sifil yn dod islaw'r sir (neu "swydd") a'r ardal awdurdod lleol, neu eu ffurf gyfun, yr awdurdod unedol. Yn wahanol i blwyf eglwysig, sydd dan reolaeth yr eglwys, mae plwyf sifil yn cael ei lywodraethu gan gyfrifiad plwyf etholedig, sydd â'r pŵer i godi trethi er mwyn cynnal prosiectau lleol.
Gall plwyf sifil fod mor fach â phentref sengl gyda llai na chant o drigolion neu mor fawr â thref gyda phoblogaeth o dros 70,000. Mae oddeutu 35% o boblogaeth Lloegr yn byw mewn plwyf sifil. Ar ddiwedd 2015 roedd 10,449 o blwyfi yn Lloegr.[1]