Poaceae

Poaceae
Amrediad amseryddol: Cretasaidd Diweddar – Holosen, 65.5–0 Miliwn o fl. CP
Cynffonwellt y maes (Alopecurus pratensis)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Monocotau
Ddim wedi'i restru: Comelinidau
Urdd: Poales
Teulu: Poaceae
Barnhart
Is-deuluoedd[1]

Teulu mawr o blanhigion blodeuol yw Poaceae neu Gramineae (teulu'r gwir weiriau/glaswelltau). Mae'n cynnwys tua 10,000 o rywogaethau mewn tua 675 genws a 12 is-deulu.[1][2] Mae ganddynt flodau bach wedi'u trefnu mewn "sbigolion" (spikelets). Mae'r blodau'n cael eu peillio gan y gwynt. Ceir y teulu ledled y byd ac mae glaswelltiroedd yn ffurfio tua 25% o lystyfiant y byd.[2] Mae'r teulu'n cynnwys y grawnfwydydd megis gwenith, indrawn a reis a chnydau eraill megis cansen siwgr.[2]

  1. 1.0 1.1 A world-wide phylogenetic classification of Poaceae (Gramineae). Adalwyd 24 Tachwedd 2012.
  2. 2.0 2.1 2.2 Heywood, Vernon H.; Richard K. Brummitt, Ole Seberg & Alastair Culham (2007) Flowering Plant Families of the World, Royal Botanic Gardens, Kew.

Developed by StudentB