Poblogaeth

Poblogaeth yw'r nifer o bobl sy'n byw mewn man penodol megis gwlad, tref neu ardal. Ceir poblogaeth fawr lle mae adnoddau da, ac ond ychydig o bobl mewn ardal heb lawer o adnoddau. Er enghraifft, all pobl ddim byw yng nghanol y Sahara neu Antarctica.

Gall poblogaeth gynyddu pan fo mwy o bobl yn mewnfudo i rywle nag sydd yn allfudo. Gall hefyd gynyddu oherwydd twf naturiol, sef bod mwy yn cael eu geni nag sydd yn marw, ac fel arall wrth gwrs.

Mae poblogaeth y byd yn tyfu'n gyflym iawn.


Developed by StudentB