Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,800, 2,768, 2,864 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,334.78 ha |
Cyfesurynnau | 51.779°N 4.174°W |
Cod SYG | W04000553 |
Cod OS | SN501111 |
Cod post | SA15 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Lee Waters (Llafur) |
AS/au y DU | Nia Griffith (Llafur) |
Pentref diwydiannol a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Pontyberem. Fe'i lleolir yng Nghwm Gwendraeth Fawr. Mae ardal Cyngor Cymuned Pontyberem yn gartref i 2,800 o bobl ac yn cynnwys pentref Bancffosfelen, a leolir ar lethr dwyreiniol Mynydd Llangyndeyrn. Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd 81.28% (1961:91% :1991:80.5%) o'r boblogaeth yn meddu ar un neu fwy o sgiliau yn yr iaith Gymraeg, gyda 60.83% yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg.[1]
Ffurfiwyd plwyf newydd o'r enw Pontyberem yn 1919 yn dilyn tyfiant y diwydiant glo. Y pwll glo hynaf oedd Glynhebog a chafwyd fod y glo o'r ansawdd gorau yn y byd.[2]
Ganwyd y gantores boblogaidd, Dorothy Squires mewn gwersyll ar gyrion Pontyberem. Mae Gwenda Owen y gantores a enillodd yr Ŵyl Ban-Geltaidd i Gymru ym 1995 gyda Chân yr Ynys Werdd yn enedigol o'r pentref.
Ym Mhontyberem mae pencadlys Menter Cwm Gwendraeth, y fenter iaith gyntaf i'w sefydlu yng Nghymru.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lee Waters (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Nia Griffith (Llafur).[4]