Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan | |
---|---|
Arwyddair | Gair Duw Goreu Dysg |
Sefydlwyd | 1822 (siarter brenhinol 1828) |
Math | Cyhoeddus |
Gwaddol | £5.9M (2004/2005) |
Canghellor | Y Tywysog Siarl |
Is-ganghellor | Medwin Hughes |
Staff | 200 |
Myfyrwyr | 9,150[1] |
Israddedigion | 7,455 (1,100 yn byw ar y campws)[1] |
Ôlraddedigion | 1,035[1] |
Lleoliad | Llanbedr Pont Steffan, Cymru |
Campws | Gwledig |
Cyn-enwau | Coleg Dewi Sant Coleg Prifysgol Dewi Sant |
Lliwiau | Du ac aur[2] |
Tadogaethau | Prifysgol Cymru ACU Universities UK |
Gwefan | http://www.llambed.ac.uk/ |
Prifysgol yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion ydy Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. Ar ôl prifysgolion hynafol Rhydychen a Chaergrawnt a phrifysgolion yr Alban, dyma yw'r sefydliad prifysgol hynaf ym Mhrydain. A'r brifysgol yn dysgu ymron 2000 o israddedigion, Prifysgol Llanbedr Pont Steffan oedd y brifysgol leiaf yn Ewrop. Yn Rhagfyr 2009, unwyd y coleg â Choleg y Drindod, Caerfyrddin i ffurfio prifysgol newydd, sef Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a dderbyniodd ei siartr brenhinol ar 21 Mehefin 2010.[3]