Prifysgol Leipzig

Prifysgol Leipzig
ArwyddairAus Tradition Grenzen überschreiten Edit this on Wikidata
Mathprifysgol gyhoeddus, cyhoeddwr mynediad agored, comprehensive university, university of applied sciences Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2 Rhagfyr 1409 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLeipzig Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Cyfesurynnau51.3387°N 12.378728°E Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganWilliam II, Margrave of Meissen Edit this on Wikidata

Prifysgol gyhoeddus yn yr Almaen yw Prifysgol Leipzig (Almaeneg: Universität Leipzig) a leolir yn Leipzig yn nhalaith Sacsoni. Hon ydy'r brifysgol hynaf yn yr Almaen, ond am Heidelberg, ac un o'r prifysgolion hynaf yn Ewrop.

Sefydlwyd Prifysgol Leipzig ym 1409 gan fyfyrwyr ac athrawon Almaenig a symudodd o Brifysgol Prag, wedi i Václav IV, brenin Bohemia, drosglwyddo rheolaeth dros y brifysgol i'r Tsieciaid. Cydnabuwyd Prifysgol Leipzig gan bwl pabyddol ym 1409. Daeth dan ddylanwad y Diwygiad Protestannaidd ym 1539.[1]

Yn y 18g a'r 19g datblygodd yn un o brifysgolion blaenaf Ewrop, yn enwedig o ran ysgolheictod llenyddol a diwylliannol. Ymhlith yr athrawon o nod oedd y damcaniaethwr llenyddol Johann Gottsched, ac mae cyn-fyfyrwyr y brifysgol yn cynnwys y mathemategydd Gottfried Liebniz, yr athronydd Johann Fichte, y llenor Johann Wolfgang von Goethe, a'r cyfansoddwr Richard Wagner.

Aildrefnwyd y brifysgol ym 1946, ac ym 1953, dan reolaeth Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (DDR), newidiodd ei henw yn swyddogol i Brifysgol Karl Marx Leipzig. Yn sgil cwymp y DDR ym 1990, adferwyd yr hen enw.

Rhennir y brifysgol yn gyfadrannau economeg, y gyfraith, athroniaeth, hanes, gwyddor gwleidyddiaeth, astudiaethau diwylliannol, ieithyddiaeth ddamcaniaethol a chymhwysol, y gwyddorau, mathemateg a chyfrifiadureg, a meddygaeth.

  1. (Saesneg) University of Leipzig. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Hydref 2023.

Developed by StudentB