Arwyddair | Die Luft der Freiheit weht |
---|---|
Math | prifysgol breifat, prifysgol ymchwil, sefydliad addysgol preifat nid-am-elw, cyhoeddwr mynediad agored |
Enwyd ar ôl | Leland Stanford, Jr. |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Stanford |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 37.4275°N 122.17°W |
Cod post | 94305 |
Sefydlwydwyd gan | Leland Stanford, Jane Stanford |
Prifysgol breifat a leolir yn Stanford, ger dinas Palo Alto yng Nghaliffornia, UDA, yw Prifysgol Stanford (Saesneg: Leland Stanford Junior University neu yn fyr Stanford University). Sefydlwyd ym 1885 gan Leland Stanford a'i wraig Jane er cof am eu mab fu farw. Agorodd ym 1891 ac yn derbyn dynion a menywod.[1] Stanford yw un o brifysgolion uchaf ei bri yn yr Unol Daleithiau, ac ymhlith ei chyn-fyfyrwyr ac academyddion mae 17 o ofodwyr, 20 o enillwyr Gwobr Turing, 60 o enillwyr Gwobr Nobel, saith enillwr Medal Fields, a nifer o aelodau'r Senedd a Thŷ'r Cynrychiolwyr. Mynychodd 30 o filiwnyddion byw y brifysgol hon, ac yn ôl un cyfrif mae cyn-fyfyrwyr ac academyddion Stanford wedi sefydlu cwmnïau sy'n cynhyrchu mwy na US$2.7 triliwn o refeniw y flwyddyn, sy'n cyfateb i ddegfed economi fwya'r byd.[2]