Mae Prydain Fawr yn ynys oddi ar arfordir gogledd gorllewinol Ewrop. Hi ydyw'r fwyaf o'r Ynysoedd Prydeinig. Mae tair cenedl o fewn yr ynys, sef Cymru, Yr Alban a Lloegr (mae rhai pobl yn ystyried Cernyw yn bedwaredd genedl nas cydnabyddir yn swyddogol). Yn wleidyddol, ystyrir bod yr ynysoedd llai sydd yn rhannau o Gymru, Lloegr, neu'r Alban, fel Ynys Enlli er enghraifft, yn rhannau o Brydain Fawr hefyd. Llywodraethir yr ynys gan senedd yn Llundain fel rhan o wladwriaeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, er bod mesur o hunanlywodraeth gan Gymru a'r Alban erbyn hyn. Sylwer nad ydyw talaith Gogledd Iwerddon yn rhan o Brydain Fawr.