Ptolemi | |
---|---|
Ganwyd | Κλαύδιος Πτολεμαῖος c. 100 Ptolemais Hermiou |
Bu farw | c. 170 Alexandria, Canopus |
Man preswyl | Alexandria |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | mathemategydd, daearyddwr, seryddwr, astroleg, damcaniaethwr cerddoriaeth, athronydd, cerddolegydd, epigramwr, llenor |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Almagest, Geography, List of Roman emperors, Ptolemaic map, Ptolemy's intense diatonic scale, Ptolemy's table of chords, Ptolemy's inequality, Ptolemy's theorem, equant, quadrant, Tetrabiblos, Handy Tables |
Prif ddylanwad | Aristoteles |
Mathemategydd, seryddwr a daearyddwr Groegaidd o'r Aifft oedd Ptolemi, enw llawn Claudius Ptolemaeus (Groeg: Κλαύδιος Πτολεμαῖος Klaúdios Ptolemaĩos; ar ôl 83 - wedi 161 OC).
Roedd yn byw yn nhref Ptolemais Hermiou yn y Thebaid yn yr Aifft, a oedd bryd hynny yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig, ac mae'n debyg ei fod yn enedigol o'r dref honno. Bu farw yn Alexandria.
Roedd yn awdur nifer o draethodau gwyddonol, a bu tri o'r rhain yn eithriadol o bwysig. Un oedd yr Almagest (Groeg: Η Μεγάλη Σύνταξις, "Y Traethawd Mawr", yn wreiddiol Μαθηματικἠ Σύνταξις, "Traethawd Mathemategol"). Yr ail yw'r Geographia, trafodaeth fanwl ar ddaearyddiaeth y byd Groeg a Rhufeinig. Y trydydd yw'r traethawd Tetrabiblos ("Pedwar llyfr") sy'n ymgais i gymhwyso sêr-ddewiniaeth at athroniaeth naturiol Aristotelaidd.
Yn 833 cyhoeddodd Muhammad ibn Mūsā al-Khwārizmī ei Kitāb ṣūrat al-Arḍ ("Llyfr ymddangosiad y ddaear"), fersiwn wedi ei ddiweddaru a'i gwblhau o'r Geographia.