Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.467°N 3.783°W |
Cod OS | SN7897286945 |
Pumlumon yw'r mynydd uchaf yng nghanolbarth Cymru, yn yr Elenydd. Ceir pum prif gopa ar y mynydd: yr uchaf yw Pen Pumlumon Fawr (752 m). Mae ochrau gogleddol y mynydd-dir yn greigiog a'r ochrau deheuol yn llwm a mawnog.
Ystyr llumon yw "simnai" neu "corn y mwg". Felly "Y Pum Simnai" yw ystyr lythrennol yr enw Pumlumon (llurguniad Seisnigaidd yw'r ffurf Plynlimon). Y pum llumon yw:
Mae'r mynydd yn gorwedd yng ngogledd-ddwyrain Ceredigion gan ffurfio pwynt(au) uchaf yr ucheldir mawnog agored sy'n gorwedd rhwng Aberystwyth i'r gorllewin, Machynlleth i'r gogledd, Llanidloes i'r dwyrain a Ponterwyd i'r de. Ar lethrau dwyreiniol Pumlumon, o fewn tair milltir i'w gilydd, ceir tarddleoedd afonydd Hafren (yr afon hwyaf ym Mhrydain) a Gwy. Yng nghesail y mynydd, islaw ymyl ysgathrog gogledd Pumlumon, mae Llyn Llygad Rheidol, tarddle afon Rheidol. I'r gorllewin o'r mynydd ceir cronfa ddŵr Nant-y-moch.
Ymladdwyd Brwydr Hyddgen ger Pumlumon yn haf 1401, pan drechodd lluoedd Owain Glyndŵr lu o Saeson a Ffleminiaid. Bu ardal Pumlumon yn gadarnle i wŷr Glyn Dŵr ar gyfer ymosodiadau ar ardaloedd yn y Gororau.