Quechua (Runa simi) | |
---|---|
Siaredir yn: | Ariannin, Bolifia, Brasil, Colombia, Ecwador, Periw, Tsile |
Parth: | De America |
Cyfanswm o siaradwyr: | 10 miliwn |
Safle yn ôl nifer siaradwyr: | 83 |
Achrestr ieithyddol: | Cetshwaidd |
Statws swyddogol | |
Iaith swyddogol yn: | Periw a Bolifia |
Rheolir gan: | Academia Mayor de la Lengua Quechua |
Codau iaith | |
ISO 639-1 | qu |
ISO 639-2 | que |
ISO 639-3 | que (generig) |
Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd |
Un o ieithoedd brodorol De America yw Quechua (Runa simi yn Quechua). Iaith yr Incas a siaredid yn ucheldiroedd canol yr Andes oedd Quechua. Fe'i siaredir gan eu disgynyddion heddiw ym Mheriw, Bolifia ac Ecwador yn bennaf, a hefyd yn ne Colombia, gogledd-orllewin yr Ariannin a gogledd Tsile. Gyda tua 10 miliwn o siaradwyr, Quechua yw'r fwyaf o ieithoedd brodorol De America. Mae Quecha yn iaith ddodiadol iawn yn hytrach nag ymasiadol.