Ar 18 Medi 2014 cynhaliodd Llywodraeth yr Alban refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban. Roedd y refferendwm yn gofyn i etholwyr yr Alban: "A ddylai'r Alban fod yn wlad annibynnol?"[1] (Saesneg: Should Scotland be an independent country?).[2] Roedd hyn yn dilyn cytundeb rhwng Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y Deyrnas Unedig,[3] yn dilyn papur a gyhoeddwyd ar 21 Mawrth 2013 a oedd yn gosod y seiliau.[4] ac a gymeradwywyd gan Senedd yr Alban ar 14 Tachwedd 2013 ac yn Llundain ar 17 Rhagfyr 2013.[5] Roedd angen mwyafrif (h.y. dros 50%) o'r pleidleisiau i annibyniaeth gael ei wireddu.[6][7] Canlyniad y referendwm oedd na ddylai'r Alban fod yn annibynnol gyda 1,617,989 (44.7%) o blaid a 2,001,926 (55.3%) yn erbyn. Pleidleisiodd 71% o bobl ifanc 16-17 oed dros annibyniaeth.
Hyd at 12 diwrnod cyn y refferendwm, roedd y poliau'n nodi fod y garfan dros annibyniaeth tua chwe phwynt ar ôl y Na, ond ar y 6ed o Fedi cyhoeddwyd pôl piniwn y Times a oedd yn dangos fod 51% o'r etholwyr yn bwriadu pleidleisio dros annibyniaeth.[8] Mewn ymateb i hyn cyhoeddodd y Canghellor George Osborne y byddai'r Alban yn derbyn mwy o annibyniaeth a hawliau megis codi trethi, waeth beth fydd canlyniad i hyn. Yr un diwrnod, mynnodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y dylid rhoi'r un hawliau i Gymru.[9] Ymateb arall i hyn oedd i nifer o wleidyddion Saesneg gan gynnwys David Cameron, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, ymweld â'r Alban er mwyn ceisio dylanwadu ar y bleidlais.
Gan i'r mwyafrif bleidleisio yn erbyn annibyniaeth yna bydd yr Alban yn parhau o dan y drefn bresennol, yn rhan o'r Deyrnas Unedig,[6][7] ond addawyd y byddai rhagor o bwerau yn cael eu datganoli i'r Alban o Lundain, fel rhan o Ddeddfwriaeth yr Alban 2012.[6][7] I'r perwyl hwn gwnaed nifer o argymhellion yn Nhachwedd 2014 gan Y Comisiwn Smith.
Wrth grynhoi'r ymgyrch dros annibyniaeth yn Nhachwedd 2014 dywedodd Dylan Iorwerth Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, 'Llwyddiant rhyfeddol oedd pleidlais'Ie' refferendwm yr Alban gan fod Alex Salmond yn gwybod yn iawn mai cam oedd o, nid diwedd y daith. Mae galw Salmond yn fethiant fel pebai awduron 'Exodus' wedi dweud mai fflop oedd Moses.'[10]
|accessdate=
(help)