Rhedyn | |
---|---|
Coedredynen | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Pteridophyta |
Dosbarthiadau[1] | |
|
Planhigion o'r rhaniad Pteridophyta (neu Filicophyta) yw rhedyn. Mae tua 11,000[2] o rywogaethau'n tyfu ledled y byd, yn enwedig yn y trofannau. Planhigion fasgwlaidd yw rhedyn ac maent yn atgynhyrchu â sborau yn hytrach na hadau. Nid yw'r rhedyn o ddiddordeb economaidd heblaw am redyn ar gyfer gerddi, neu fel pla ar gaeau Cymru - y rhedynen ungoes (Bracken yn Saesneg). Maent o ddiddordeb mawr i fiolegwyr am eu cylch bywyd "haploid-diploid" a'r genedlaethau sboroffytaidd a gametoffytaidd.