Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru

Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yw enw'r rheilffordd sy'n cysylltu Caergybi ar Ynys Môn â thref Crewe yng ngogledd-orllewin Lloegr. Agorwyd yr adran gyntaf yn 1840, rhwng Crewe a Chaer. Adeiladwyd gweddill y rheilffordd gan gwmni Rheilffordd Caer a Chaergybi o 1844 i 1850 fel rhan o wasanaeth yr Irish Mail i Ddulyn, Iwerddon. Ers Ebrill 2006, mae Network Rail yn ystyried y rheilffordd yn Drac 18 yn ei rwydwaith (Prif Reilffordd Arfordir y Gogledd).


Developed by StudentB