Rhif cofrestru a ddefnyddir yn y fasnach lyfrau yw'r Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol (ISBN o'r Saesneg International Standard Book Number). Fe'i defnyddir yn helaeth gan siopau llyfrau a llyfrgelloedd er enghraifft. Rhoddir rhif arbennig i bob llyfr a gyhoeddir, ond nid i gyfnodolion (defnyddir ISSN).
Rhoddir un Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol unigol wedi ei gofrestri i bob llyfr, a dydy'r rhif ddim yn newid pan adargraffir - heblaw mewn argraffiad newydd â testun wedi newid yn sylweddol - ond mae rhif llyfr clawr meddal yn wahanol i un clawr caled. Beth bynnag, nid oes Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol ar bob llyfr am nad yw llawer o wasgau bychain yn cofrestru eu llyfrau.