Datblygodd yr hen Rufain (hefyd Rhufain yr henfyd, hen ddinas Rhufain, Rhufain gynt) o fod yn bentref amaethyddol ger glan Afon Tiber yng nghanolbarth yr Eidal i fod yn ymerodraeth oedd yn ymestyn o'r Alban i Ogledd Affrica ac o Sbaen i Mesopotamia. O'r 5g ymlaen, dechreuodd yr ymerodraeth ddadfeilio, ac ymrannodd Ymerodraeth Rufeinig y Gorllewin yn nifer o deyrnasoedd annibynnol. Parhaodd Ymerodraeth Rufeinig y Dwyrain, a reolid o Gaergystennin am ganrifoedd lawer ar ôl hyn, dan yr enw Yr Ymerodraeth Fysantaidd.