Difrifol iawn Difrifol Problem gweladwy | Boddhaol Da Dim data |
Defnyddir y term rhyddid y wasg i gyfleu nifer o bethau gan gynnwys rhyddid y wasg draddodiadol, y teledu, y cyfryngau, cyfryngau torfol ac unrhyw fath o gyhoeddiad arall i fynegi barn yn gyhoeddus ar bapur neu gyfrwng digidol. Yn baradocsaidd, mae'r term yn cyfleu'r syniad fod y farn a gyflwynir yn rhydd o unrhyw sensoriaeth neu ddylanwad gan y sefydliad neu'r wladwriaeth, ond caiff ei ddiffinio a'i gadw o fewn mesurau cyfreithiol a chyfansoddiad statudol.
O ran gwybodaeth sy'n ymwneud â llywodraeth, gall unrhyw lywodraeth fanylu pa ran ohoni i'w gwneud yn gyhoeddus a pha ran y dylid ei chuddio rhag y cyhoedd. Maent yn ystyried rhai materion yn gyfrinachol am gyfnod penodol o amser, cyn eu rhyddhau, yn enwedig pan fo'n fater sy'n ymnewud â diogelwch cenedlaethol y wladwriaeth. Ar y llaw arall, mae gan lawer o wledydd systemau i agor y wybodaeth er mwyn ei rhannu â'r cyhoedd e.e. yng ngwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon gellir gwneud 'Cais i Ryddhau Gwybodaeth' (neu FoIR').
Dywed Datganiad Cyffredinol am Hawliau Dynol 1948 y Cenhedloedd Unedig: "Mae gan bawb yr hawl i ryddid barn ac i'w mynegi. Mae'r hawl hwn yn cynnwys y rhyddid i'r farn honno heb ymyrraeth yn ogystal â rhannu'r farn honno mewn unrhyw gyfrwng, heb ffiniau."[2]