Enghraifft o'r canlynol | rhyfel cartref |
---|---|
Dechreuwyd | 12 Ebrill 1861 |
Daeth i ben | 9 Ebrill 1865 |
Olynwyd gan | Second American Civil War |
Lleoliad | De'r Unol Daleithiau, Gogledd yr Unol Daleithiau |
Yn cynnwys | eastern theater of the American Civil War, Western Theater of the American Civil War, Trans-Mississippi theater of the American Civil War, Pacific coast theater of the American Civil War |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
CBAC | |
Argyfwng y Weriniaeth Americanaidd | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Ymladdwyd Rhyfel Cartref America (1861–1865) rhwng Unol Daleithiau America ac un ar ddeg talaith yn y De, oedd yn dymuno gadael yr Unol Daleithiau. Yr un ar ddeg talaith oedd Texas, Arkansas, Louisiana, Mississippi, Tennessee, Alabama, Georgia, Florida, De Carolina, Gogledd Carolina a Virginia. Dechreuodd y rhyfel yn dilyn ethol Abraham Lincoln yn Arlywydd yr Unol Daleithiau ar ddiwedd 1860 ac ar ôl iddo ddechrau yn ei swydd yn swyddogol ym Mawrth 1861. Achosodd y Rhyfel Cartref raniadau yn y wlad rhwng y gogledd a’r de. Prif asgwrn y gynnen oedd caethwasiaeth; roedd pob un o'r taleithiau oedd yn dymuno gadael yr Undeb yn rhai lle'r oedd caethwasiaeth yn elfen bwysig. Er nad oedd Lincoln wedi bygwth dileu caethwasiaeth, ystyrid ef yn elyn i'r gyfundrefn. Ofnai’r deheuwyr y byddai’n dileu caethwasiaeth yn y taleithiau deheuol ac y byddai’r taleithiau newydd fyddai’n cael eu ffurfio yn cael eu gwahardd rhag cadw caethwasiaeth. Gan hynny, penderfynodd yr un ar ddeg talaith hyn adael yr Unol Daleithiau. Roeddent yn galw eu hunain yn Daleithiau Cydffederal ac roedd ganddynt eu byddin eu hunain, sef y Fyddin Gydffederal. Dewiswyd Jefferson Davis ganddynt fel eu Harlywydd.[1]
Roedd yr Ymwahanwyr, sef yr un ar ddeg talaith a oedd eisiau torri’n rhydd oddi wrth Undeb Unol Daleithiau America, yn cefnogi parhad caethwasiaeth. Dadleuent mai hawliau’r taleithiau unigol oedd y grym sofran terfynol oddi mewn i’r Undeb. Yn nhaleithiau’r De roedd y niferoedd mwyaf o gaethweision ynghyd â’r ganran uchaf o deuluoedd gwynion oedd yn berchen ar gaethweision. Perchnogion planhigfeydd fyddai’n aml yn arwain y mudiad Ymwahanu, a byddai’r gwrthwynebiad iddynt yn dod oddi wrth ffermwyr nad oedd yn gaethfeistri ac nad oedd ganddynt lawer o gysylltiad (os o gwbl) â chaethwasiaeth y trefedigaethau.
Roedd mwyafrif helaeth y Gogleddwyr yn gwrthod y gwahanu ac yn ei weld yn ddirmyg bradwrus ar y Cyfansoddiad. Roeddent yn cysylltu ymwahanu ag anarchiaeth ac ofnent y byddai’n arwain at rannu’r Unol Daleithiau. Roedden nhw o blaid cadw’r Undeb.[2]