Rhyfel Fietnam | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhan o'r Rhyfel Oer a Rhyfeloedd Indo-Tsieina | |||||||||
Phan Thị Kim Phúc, canol, ger Trảng Bàng, Fietnam, ar 8 Mehefin 1972, wedi i fom napalm gael ei ollwng gan Awyrlu Unol Daleithiau America: Nick Ut / The Associated Press. | |||||||||
|
Gwrthdaro milwrol yn ystod y Rhyfel Oer oedd Rhyfel Fietnam[A 2] a ddigwyddodd yn Fietnam, Laos, a Chambodia o 1 Tachwedd 1955[A 1] hyd gwymp Saigon ar 30 Ebrill 1975. Dilynodd y rhyfel hwn Ryfel Cyntaf Indo-Tsieina ac ymladdwyd rhwng Gogledd Fietnam, gyda chefnogaeth ei chynghreiriaid comiwnyddol, a llywodraeth De Fietnam, gyda chefnogaeth yr Unol Daleithiau a gwledydd gwrth-gomiwnyddol eraill.[6] Ymladdodd y Fiet Cong, ffrynt cyffredin comiwnyddol yn Ne Fietnam nad oedd yn meddu ar lawer o arfau, ryfel herwfilwrol yn erbyn lluoedd gwrth-gomiwnyddol yn yr ardal. Bu Byddin Pobl Fietnam, byddin y Gogledd, yn ymladd rhyfel mwy confensiynol, weithiau gan ddanfon niferoedd mawr i frwydro. Dibynnodd lluoedd Americanaidd a De Fietnam ar ragoriaeth awyrennol a grym tanio trwm er mwyn cynnal ymgyrchoedd chwilio a dinistrio, gyda milwyr ar y tir, magnelau, a chyrchoedd awyr.
O safbwynt y llywodraeth Americanaidd roedd ei rôl yn y gwrthdaro yn fodd atal o De Fietnam rhag cwympo i gomiwnyddiaeth, ac felly'n rhan o strategaeth ehangach yr Unol Daleithiau o gyfyngu lledaeniad Comiwnyddiaeth. Yn ôl llywodraeth Gogledd Fietnam roedd y rhyfel yn un drefedigaethol, a ymladdwyd yn gyntaf gan Ffrainc, gyda chefnogaeth yr Unol Daleithiau, ac yna yn erbyn De Fietnam, a gafodd ei gweld yn wladwriaeth byped Americanaidd.[7] Cyrhaeddodd cynghorwyr milwrol Americanaidd ar gychwyn 1950, a dwysaodd ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn gynnar yn y 1960au; treblodd niferoedd y lluoedd Americanaidd ym 1961 ac eto ym 1962.[8] Defnyddiwyd lluoedd ymladd gan yr Americanwyr o 1965 ymlaen. Ymledodd ymgyrchoedd milwrol dros ororau, a chafodd Laos a Chambodia eu bomio'n drwm. Bu ymyrraeth yr Unol Daleithiau ar ei hanterth ym 1968, adeg Ymosodiad Tet. Wedi hyn, enciliodd lluoedd Americanaidd o dir yr ardal fel rhan o bolisi a elwir yn Fietnameiddio. Er i holl ochrau'r gwrthdaro arwyddo Cytundeb Heddwch Paris yn Ionawr 1973, parhaodd yr ymladd.
Daeth rhan filwrol yr Unol Daleithiau yn y rhyfel i ben ar 15 Awst 1973 o ganlyniad i Welliant Case–Church a basiwyd gan Gyngres y wlad.[9] Nododd cipio Saigon gan fyddin Gogledd Fietnam ddiwedd y rhyfel ym mis Ebrill 1975. Adunodd Gogledd a De Fietnam y flwyddyn wedyn. Bu nifer fawr o golledigion, ac mae amcangyfrifon o nifer y milwyr a sifiliaid Fietnamaidd a fu farw yn amrywio o lai nag un miliwn[10] i fwy na thair miliwn.[11] Bu farw tua 200,000–300,000 o Gambodiaid,[12][13][14] 20,000–200,000 o Laosiaid,[15][16][17][18][19][20] a 58,220 o luoedd Americanaidd hefyd.
Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref>
yn bodoli am grŵp o'r enw "A", ond ni ellir canfod y tag <references group="A"/>
Meanwhile, the United States, its military demoralized and its civilian electorate deeply divided, began a process of coming to terms with defeat in its longest and most controversial war